Aberhonddu
Mae’r heddlu yn Aberhonddu yn galw am lygaid dystion ar ôl i ddyn 37 oed golli ei glust yn ystod ymosodiad yng nghanol y dref fis diwethaf.

Mae’n debyg fod rhywun arall wedi brathu ei glust i ffwrdd.

Aethpwyd a’r dyn i’r ysbyty yn dilyn yr ymosodiad ar High Street Superior, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Maen nhw’n credu fod nifer o bobol yn ardal y Lounge Bar lle y digwyddodd yr ymosodiad am hanner nos ar 31 Gorffennaf.

Dylai unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd ffonio’r heddlu ar 101.