Ched Evans
Mae Ched Evans a Clayton McDonald eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol gan Lys Ynadon Prestatyn.

Mae’r ddau bêl-droediwr wedi eu cyhuddo o dreisio mewn gwesty Premier Inn yn Rhuddlan ar 30 Mai eleni.

Wnaethon nhw ddim pledio’r un ffordd na’r llall, ac fe fyddwn nhw’n ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug  ar 19 Awst.

Mae Ched Evans, sy’n ymosodwr i Gymru a Sheffield United, wedi gwadu’r cyhuddiad mewn datganiad gan gyfreithwyr ei glwb pêl-droed.

Mae Evans, a aned yn Llanelwy, wedi cael 22 o gapiau i Gymru, ac mae’r ddau ddyn yn gyn-chwaraewyr gydag ieuenctid Manchester City.