Mae gan CPD Wrecsam nes 5pm i gwrdd â gofynion y Gynhadledd Bêl-droed.

Rhaid i’r clwb ddarbwyllo’r awdurdod sy’n rheoli pêl-droed di-gynghrair Lloegr eu bod yn mynd i allu chwarae eu gemau yn ystod y tymor sydd i ddod.

Mae swyddogion y clwb wedi cyhoeddi eu bod nhw’n hyderus y gallen nhw fodloni gofynion y Gynhadledd, sy’n cynnwys gwarant o £250,000 a phrawf fod y clwb wedi talu cyflogau eu staff.

Bydd y Dreigiau yn cychwyn eu hymgyrch yng nghynghrair Blue Square Bet mewn gêm gartref yn erbyn Caergrawnt Ddydd Sadwrn.

Ond yn gyntaf, rhaid iddynt gwrdd â’r amodau canlynol:

  • Darparu blaendal neu nodyn gwarant gwerth £250,000 i gyfrif y gystadleuaeth.
  • Profi fod holl gyflogau staff a chwaraewyr wedi’u talu, ac unrhyw daliadau dyledus i gredydwyr wedi’u gwneud.
  • Cyflwyno cytundeb wedi’i arwyddo i brofi i’r gynghrair fod gan y clwb gartref i chwarae ei gemau yn ystod tymor 2011/2012.
  • Cyflwyno cynllun busnes manwl a chyllideb newydd ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Taith Gerdded noddedig YCW

Ar Ddydd Sadwrn, bu grŵp o gefnogwyr Wrecsam yn codi arian ar gyfer ymdrech Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr i brynu’r clwb pêl-droed trwy gwblhau taith gerdded noddedig.

Cerddwyd 24 milltir o dref Wrecsam i Northwich Victoria, lle bu’r tîm yn chwarae gêm gyfeillgar Ddydd Sadwrn. Enillodd Wrecsam y gêm 2 – 0.

Bu hefyd gig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod yn Wrecsam a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith, a chafodd cyfran o’r elw ei gyfrannu at ymdrech yr YCW i arbed y clwb.