Ynyr Llwyd
Mae cyfansoddwr o Gymru sydd wedi cyrraedd y pumed safle yn siartiau byd-eang cerddoriaeth iTunes.

“Gwybod fod y gân yn cael ei chlywed gan gannoedd o filoedd o bobl yw’r teimlad gorau yn y byd,” meddai Ynyr Llwyd gyfansoddodd y gerddoriaeth.

Cyrhaeddodd ei sengl Gymraeg Adre’n Ôl sy’n cael ei chanu gan seren sioe gerdd Wicked, Mark Evans, rif 5 y siartiau’r wythnos diwethaf.

Ysgrifennwyd geiriau ‘Adre’n Ôl’ gan ei chwaer, Angharad Llwyd, sy’n actio cymeriad Sophie ar raglen Rownd a Rownd.

Lansiodd Sain sengl ddigidol Mark Evans ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun diwethaf.

‘Teimlo’r emosiwn’

“Roeddwn i yno yn y lansiad. Roeddwn i’n sefyll yn y gongl yn gwylio Mark yn canu a ro’n ni’n teimlo’r emosiwn deud gwir,” meddai Ynyr Llwyd.

“Roedd ganddo gôr Glanaethwy yn y cefn yn canu hefyd. Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn ohono a fy mod i ac Angharad wedi creu hyn.

“Mae’n golygu llawer iawn ac yn gwneud i rywun fod eisiau parhau i weithio’n galed er mwyn creu mwy,” meddai.

“Ar y munud y nod yw gadael i’r CD cyntaf setlo lawr a chael digon o sylw.

“Wedyn roeddwn i’n meddwl gadael llonydd i Mark am ychydig fisoedd ac efallai, yng nghanol 2012, sgwrsio am ryddhau cân arall efallai – pwy a ŵyr,” meddai Ynyr Llwyd.

Dywedodd ei fod hefyd yn ystyried ffurfio ei fand ei hun – Ynyr Llwyd a’r Band.