Darren Millar
Dyw fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ddim yn gwneud digon er mwyn lleddfu’r pwysau sydd ar feddygon teulu, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Cyhuddodd llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, Darren Millar, y llywodraeth o fethu gwireddu potensial y gwasanaeth.

Fe allen nhw ddarparu mwy o wasanaethau sylfaenol fel nad ydi pobol yn gorfod mynd i weld meddygon teulu, medden nhw.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos nad ydi’r un o fferyllfeydd cymunedol Cymru yn darparu brechiadau ffliw tymhorol na chwaith profion pwysau gwaed a cholesterol.

Dim ond un y cant sy’n darparu cefnogaeth i bobol sy’n camddefnyddio alcohol a dim ond dau y cant sy’n darparu gwasanaethau i bobol sydd dros eu pwysau.

“Mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy – ond mae eu potensial llawn wedi ei anwybyddu,” meddai Darren Millar.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu cyfle i gymryd mantais o’r arbenigedd meddygol sydd ar gael.

“Mae yna gyfle amlwg i ehangu ar beth sydd ar gael, lleddfu’r pwysau sydd ar feddygon teulu, a chynyddu cefnogaeth ar gyfer pobol leol.

“Mae un ym mhob pum oedolyn yn rhy dew – ond dim ond dau’r cant o fferyllfeydd cymunedol cymunedol sy’n darparu gwasanaeth rheoli pwysau.

“Mae mwy ân 1,000 o bobol yn marw o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol bob blwyddyn – ond dim ond un y cant o’n fferyllfeydd cymunedol sy’n darparu cefnogaeth.

“Er gwaethaf gwaith caled gweithwyr mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru dan bwysau mawr o ganlyniad i benderfyniad y Blaid Lafur i dorri biliwn o bunnoedd o’i gyllideb.

“Fe fyddai mwy o ddefnydd o fferyllfeydd cymunedol yn lleddfu’r baich ac fe ddylai fod yn flaenoriaeth i’r llywodraeth.”