Mae yna bryder fod nifer y troseddau sy’n targedu’r diwydiant amaethyddol ar gynnydd, yn ôl arolwg gan undeb y ffermwyr, yr NFU.
Dywedodd yr undeb fod troseddwyr wedi dwyn gwerth £1.7m mewn offer, tanwydd a da byw yng Nghymru mewn blwyddyn.
Mae Arolwg Troseddau Cefn Gwlad NFU Mutual yn seiliedig ar yr achosion oedd swyddfeydd y cwmni wedi delio â nhw yn ystod 2010.
Roedd bron i ddau draean o’r swyddfeydd ar draws Prydain yn dweud fod yna gynnydd yn faint o arian yswiriant yr oedd o ffermwyr wedi ei hawlio yn dilyn troseddau yn 2010.
Roedd y swyddfeydd yn rhoi’r bai ar ddiffyg heddlua mewn ardaloedd gwledig, a hefyd ymddygiad llac ffermwyr at ddiogelwch.
“Mae’n anodd gwybod ai’r dirwasgiad, rhagor o ddiogelwch mewn trefi, neu gynnydd ym mhris olew, cig a sgrap sy’n gyfrifol,” meddai Lindsay Sinclair, Prif Weithredwr NFU Mutual.
“Beth bynnag yw’r rheswm mae’n amlwg fod pobol yn teimlo effaith trosedd cefn gwlad ar eu tir nhw.”
Galwodd i ffermwyr gyd-weithio er mwyn brwydro troseddau yng nghefn gwlad.