Ched Evans
Mae disgwyl i Ched Evans, ymosodwr Cymru a Sheffield United, ymddangos o flaen llys ym Mhrestatyn heddiw.

Cafodd y chwaraewr, 22 oed, ei arestio yn Rhyl, Sir Ddinbych ym mis Mai a’i gyhuddo o dreisio.

Fe wadodd Evans y cyhuddiad mewn datganiad a wnaed gan dîm cyfreithwyr ei glwb.

Ar 26 Gorffennaf, datgelodd Heddlu Gogledd Cymru fod Ched Evans, a dyn arall 22 oed wedi eu cyhuddo o dreisio.

“Cafodd y ddau ddyn eu harestio ar amheuaeth o dreisio ar 31 Mai, ac fe gafodd y ddau eu cyhuddo o’r drosedd ar Ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 26,” meddai’r datganiad.

“Mae’r ddau wedi eu cyhoeddi ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Prestatyn ar Ddydd Llun, 8 Awst 8.”