John Toshack
Fe fydd Cymru’n cwrdd â wyneb cyfarwydd iawn wrth geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014.

Mae’r cyn reolwr, John Toshack, wedi cymryd swydd yn hyfforddwr tîm cenedlaethol Macedonia, sydd yn yr un grŵp â Chymru.

“Fe fydd hi’n anodd chwarae yn erbyn Cymru,” meddai wrth y cyfryngau. “Alla’ i ddim meddwl sut y bydd y cefnogwyr yn ymateb achos dw i’n ddyn proffesiynol ac fe fydda’ i’n gwneud fy ngorau i newid pethau ym Macedonia.”

Rheoli Cymru ddwy waith

Fe fu Toshack yn rheoli Cymru ddwywaith – am lai na deufis yn 1994 ac wedyn am 6 blynedd yn 2004.

Er iddo dynnu nifer o chwaraewyr ifanc i mewn i’r sgwad, fe gafodd sawl ffrae gyda chwaraewyr mwy profiadol a siomedig oedd pob ymgyrch mewn cystadlaethau mawr.

Lai na blwyddyn wedi iddo ymddiswyddo o swydd Cymru, mae’r wlad i lawr yn 112fed yn rhestr gwledydd FIFA.

Mae Macedonia sawl safle’n uwch ac maen nhw yn yr un grŵp â Chymru, Croatia, Serbia, Gwlad Belg a’r Alban.

“Mae’n grŵp caled, ond mae hefyd yn grŵp cytbwys,” meddai John Toshack.