Mae bodiwr yn fwy tebygol o gael lifft yng Nghymru nag unrhyw ran arall o Ynysoedd Prydain, yn ôl arolwg newydd gan yr AA.

Ond mae nifer y gyrwyr sy’n amharod i atal er mwyn rhoi lifft i fodiwr wedi codi o 75% i 91% dros y ddwy flynedd diwethaf, yn y pôl piniwn holodd 16,850 o aelodau’r gymdeithas.

Yng Nghymru roedd 12% yn dweud eu bod nhw’n “debygol neu’r debygol iawn” o roi lifft i fodiwr.

Gyrwyr gogledd-orllewin Lloegr, oedd y lleiaf tebygol o gynnig lifft i fodiwr (5%).

Yn ôl yr arolwg dim ond 1% o yrrwr oedd wedi bodio o fewn y flwyddyn ddiwethaf, a dim ond 1% ar draws Ynysoedd Prydain oedd yn “debygol iawn” o gynnig lifft i fodiwr.

Roedd tri ym mhob pump yn dweud nad oedden nhw erioed wedi bodio, gan gynnwys 75% o ferched, 93% o bobol 18-24 oed a 88% o bobol 25-34 oed.

Ond dim ond 48% o bobol 55-65 a 52% o bobol dros 65 oedd erioed wedi bodio.

“Yn anffodus mae’n edrych fel petai bodio wedi cyrraedd diwedd y daith,” meddai’r cyn-fodiwr Edmund King, llywydd yr AA.

“Mae’r genhedlaeth hŷn yn fwy tebygol o fod wedi bodio eu hunain ac felly yn barod i roi lifft i fodiwr.

“Efallai fod y cynnydd yn nifer y bobol sy’n berchen car, gwell trafnidiaeth gyhoeddus, a phryder am ddiogelwch personol wedi chwarae rhan hefyd.”