Mae’n rhy gynnar i ddweud a fydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi talu’i ffordd ond fe fydd hi’n agos.

Yn ôl Cyfarwyddwr y Brifwyl, roedden nhw’n debyg o fod yn agos at y targed o ran gwerthu tocynnau i’r maes ond ar ei  hôl hi rywfaint gyda’r cyngherddau nos.

Roedd hynny, meddai Elfed Roberts, yn berfformiad arbennig o dda o ystyried yr amgylchiadau.

‘Eithriadol o lwyddiannus’

“O feddwl ein bod ni’n agos at y ffin ac ynghanol sefyllfa economaidd anodd iawn, mi faswn i’n dweud ei bod hi’n eisteddfod eithriadol o lwyddiannus.

“Roedd hi hefyd yn Eisteddfod hapus ac mae’n wych bod pobol bellach yn dod iddi er mwyn dathlu yn hytrach na chwyno. Ac roedd hi’n braf gweld y Pafiliwn yn gyfforddus lawn fwy nag unwaith.

“Gŵyl i ddathlu ydi’r Eisteddfod ac roedd hi’n ymddangos bod y rhan fwya’ o bobol a ddaeth i Wrecsam wedi mwynhau.”

Cystadleuwyr yn tynnu’n ôl

Un o’r ychydig broblemau sylweddol oedd bylchau ar y llwyfan ac roedd hynny, meddai Elfed Roberts, oherwydd fod bandiau a chorau’n tynnu’n ôl ar y funud ola’.

Er bod rhesymau am hynny, roedd yn creu problemau i’r trefnwyr sy’n llunio’r rhaglen ar gyfer y llwyfan ar sail enwau’r rhai sy’n dweud ym mis Mai eu bod nhw am gystadlu.

“Os bydd dau fand neu gôr yn tynnu’n ôl, mi all hynny olygu bwlch o dri chwarter awr ar y llwyfan. Yn aml iawn , tydan ni ddim yn cael gwybod tan y diwrnod hwnnw.”