Elfed Roberts - addo ystyried
Mae cynghorydd o Wrecsam yn dweud bod angen gwneud mwy i ddenu pobol leol i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Un o’r prif argymhellion yw gostwng pris mynediad ar gyfer teuluoedd a dod o hyd i ffordd o ddangos cymaint o amrywiaeth o bethau sydd ar gael ar y Maes.

“Does yna ddim sens mewn codi £40 ar deulu o bedwar am ddiwrnod, yn enwedig mewn ardal ddi Gymraeg lle mae pobol leol eisio mentro ond ddim cweit yn siŵr be’ sydd yno ar eu cyfer,” meddai Marc Jones, sy’n cynrychioli ward yng nghanol y dre’.

Fe ddywedodd bod angen “ail-edrych” ar ffyrdd o ddenu pobol leol, sydd efallai yn ddi Gymraeg ac sydd heb fod yn selogion eistoeddfodol.

Yr awgrymiadau

Ar wefan Plaid Wrecsam, mae’n gwneud nifer o awgrymiadau:

  • Meddwl eto am gynnig tocyn am ddim ar y Sul cynta’, fel yng Nglyn Ebwy y llynedd.
  • Cynnal gweithgaredd yng nghanol y dre’ i roi blas o’r Eisteddfod.
  • Perswadio radio a theledu Saesneg i ddarlledu mwy na’r cystadlu er mwyn dangos bod llawer rhagor yn yr Eisteddfod ar gyfer pawb.
  • Gwell gwybodaeth am y gweithgareddau ar ôl cyrraedd y Maes.
  • Cau’r bariau ar y Maes am 7.00pm er mwyn denu rhagor o Eisteddfodwyr i dafarndai lleol.

Ond roedd hefyd yn canmol trefniadau’r Eisteddfod a chyfraniad y gwirfoddolwyr.

‘Diffyg adnoddau’

Diffyg adnoddau yw’r brif broblem wrth geisio dilyn rhai o’r argymhellion, meddai Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.

Fe fyddai cynllun tocyn am ddim fel y llynedd wedi bod yn anodd iawn ei weinyddu ac wedi cynnwys y rhan fwya’ o ogledd Cymru – fel yr oedd, meddai, roedd 4,500 o bobol leol o ardal Wrecsam ei hun wedi dod i mewn am ddim ar y dydd Sul.

Yn y gorffennol, roedd sgrîn wedi ei chodi yng nghanol tref yr Eisteddfod i ddangos lluniau o’r ŵyl, ond fe fyddai llogi sgrîn o’r fath yn costio tua £15,000.

“Er mwyn cynnal rhywbeth byw, mi fyddai’n rhaid cael staff,” meddai, “ac mae llawer o staff yr Eisteddfod eisoes yn gorfod gweithio rhwng 7 y bore ac 11 y nos bob dydd.”

Ond fe addawodd y bydd Bwrdd yr Eisteddfod yn ystyried syniadau newydd yn ofalus, gan gynnwys chwilio am ffyrdd o wobrwyo pobol sy’n prynu nifer o docynnau, gan gynnwys y cyngherddau nos.