Mae gwylwyr y glannau wedi dweud bod y digwyddiad neithiwr pan achubwyd dau lanc o lannau aber Llwchwr wrth i’r llanw ddod i mewn yn dangos yn union pam y dylai uned argyfwng sydd yn wynebu bygythiad i’w dyfodol aros ar agor.

Mae Uned Gwylwyr y Glannau Abertawe yn un o wyth canolfan ar draws y Deyrnas Unedig y bwriedir eu cau o dan gynlluniau torri costau Llywodraeth San Steffan.

I ddechrau roedd ei dyfodol yn ddiogel ond y mis diwethaf cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Phillip Hammond ei fod am gau’r uned, a chadw unedau yng ngorllewin a gogledd Cymru ar agor yn lle hynny.

Cafwyd gwrthwynebiad chwyrn i’r penderfyniad ar draws de Cymru – yn enwedig gan achubwyr bywyd lleol.

Dywedodd Bad Achub Annibynnol Llwchwr fod y digwyddiad neithiwr yn profi bod gwybodaeth arbenigol leol uned Abertawe wedi bod yn allweddol i achub bywydau.

“Cawsom neges gan Wylwyr y Glannau Abertawe tua 9.40pm am ddau berson ifanc tua 15 oed oedd wedi cael eu hynysu gan y llanw’n uwch i fyny na Chlwb Hwylio Llwchwr,” meddai John Edwards, aelod o griw’r bad achub.

Aethon nhw ar goll a doedd ganddyn nhw ddim syniad yn y tywyllwch lle’r oedden nhw ar wahân i’r ffaith eu bod ar lan aber Llwchwr oedd yn gorlifo ei glannau o dan lanw uchel 8.4 m.

“Roedden nhw’n gallu gweld pont ar yr M4, peilon, a phwll bach, a defnyddiodd Gwylwyr y Glannau eu gwybodaeth o’r ardal i lunio patrwm chwilio ac achub i Fad Achub Llwchwr a’r criw.

“Tra oedd y bad ar ei ffordd , gofynnodd Gwylwyr y Glannau Abertawe i hofrennydd achub 169 y Llu Awyr gynorthwyo hefyd.

“Oherwydd eu gwybodaeth leol cafwyd hyd i’r ddau lanc yn gyflym.”

Ychwanegodd cocsyn Llwchwr Colin Davies fod y ffaith bod y bechgyn wedi defnyddio rhaglen ffon symudol wedi chwarae rhan hollbwysig wrth eu hachub.

“Roedd hi’n ddu fel y fagddu a doedd neb yn gallu clywed pobl yn gweiddi am gymorth. Diolch i’r drefn fod ganddyn nhw ffon symudol a rhaglen SOS’,” meddai.

“Dylid canmol Gwylwyr y Glannau Abertawe am eu hymateb cyflym i’r amgylchiadau lleol’.

“Roedd eu gwybodaeth yn hanfodol  bwysig i achub y ddau lanc cyn i’r llanw uchel eu hamgylchynu.

“Gallent yn hawdd fod wedi marw.”

Pryderon

Ym mis Gorffennaf, newidiodd llywodraeth San Steffan ei chynlluniau i gau nifer o ganolfannau gwylwyr y glannau ar draws y DU

Y bwriad gwreiddiol oedd torri’r canolfannau ar draws y DU o 19 i naw, a dim ond tair o’r rheini ar agor 24 awr y dydd.

Ond o dan y cynlluniau diwygiedig bydd 11 o ganolfannau yn aros ar agor – pob un ohonynt 24 awr y dydd.

Dywedodd Phillip Hammond mai’r bwriad oedd cadw Caergybi yng ngogledd Cymru ar agor yn hytrach na phencadlys yr MCA yn Lerpwl am fod pryderon wedi eu lleisio mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

Ychwanegodd mai Abertawe fydd yn cau yn awr yn lle Aberdaugleddau yn Sir Benfro – ac mai’r rheswm am hynny oedd bod mwy o bobl yn gweithio i’r llywodraeth yn Abertawe.

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a Dinefwr fod y cyhoeddiad yn gymysgedd o’r “melys a’r chwerw.”

“Mae Aberdaugleddau a Chaergybi wedi ymladd yn galed iawn i aros ar agor,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Ond mae’n codi cwestiynau mawr pam yn union mae uned Abertawe’n cael ei chau. ”

Mae swyddogion undeb wedi honni y gallai cau gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe olygu gorfod trefnu cyrchoedd achub ym Mor Hafren o leoedd mor bell i ffwrdd ag Ynysoedd y Shetland.

“Os bydd Aberdaugleddau’n brysur yn delio a digwyddiad arall, y bwriad yw y bydd y Ganolfan yn Southampton yn cymryd cyfrifoldeb am For Hafren,” meddai Steve Matthews, cynrychiolydd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol i Wylwyr y Glannau Abertawe.

“Mae arfordir de Lloegr yn brysur iawn, ac os ydyn nhw’n brysur bydd y gwaith yn cael ei drosglwyddo i un o’r gorsafoedd tawelach.

“Yn y dyfodol mae’n bosib y gwelwn ddigwyddiadau yn y Mwmbwls, neu oddi ar Benarth neu yn Weston-super-Mare yn cael eu rheoli o Ynysoedd y Shetland..”

Bydd ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth San Steffan yn cau ar Hydref 6.