Stondin Bro Morgannwg ar y Maes eleni
Wrth i Eisteddfod Wrecsam ddirwyn i ben fe fydd y sylw’n troi at Fro Morgannwg lle caiff yr Ŵyl ei chynnal yn 2012.

Dywed Cyngor Bro Morgannwg fod eu holl sylw bellach ar yr Ŵyl ei hun a gynhelir rhwng 4 ac 11 Awst yn 2012.

Maen nhw’n addo amrywiaeth o’r gwledig a’r dinesig wrth iddyn nhw obeithio denu torfeydd mawr i Llandŵ.

“Mae’r Eisteddfod yn un o brif wyliau diwylliannol y byd, ac yn gyfle dihafal i ni ddangos beth yn union sydd gan y sir i’w gynnig,” medden nhw.

“Gyda’i pharciau gwobrwyedig, traethau fflag las, atyniadau yn Ynys y Barri a thafarndai a thai bwyta o’r radd flaenaf, y mae gan y Fro rywbeth i’w gynnig at ddant pawb.  Yn ogystal â hynny, y mae siopau a bywyd nos bendigedig Caerdydd i gyd o fewn cyrraedd hwylus ar y trên.

“Gobeithio y bydd ymwelwyr â’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf yn manteisio i’r eithaf ar bopeth sydd gan ein sir i’w gynnig.”

‘Achlysur arbennig’

Mae gan y cyngor stondin yn neuadd arddangosfa’r ŵyl eleni lle caiff ymwelwyr fanylion ynglŷn â lle i aros yn y Fro a mwy o wybodaeth am atyniadau’r ardal, medden nhw.

“Rwy’n hynod falch o gael croesawu’r Eisteddfod i Fro Morgannwg,” meddai’r Cynghorydd Rhodri Traherne, sy’n aelod o’r cabinet dros ddatblygu ac adfywio economaidd.

“Mae’r Eisteddfod yn ŵyl ddiwylliannol genedlaethol hynod bwysig ac y mae Cyngor Bro Morgannwg yn benderfynol o sicrhau bod Eisteddfod 2012 yn achlysur gwirioneddol arbennig, llwyddiannus a chofiadwy ar y naw.”

Cynhaliwyd Seremoni’r Cyhoeddi ar 25 Mehefin yng Ngerddi Gladstone, y Barri er mwyn lansio gŵyl y flwyddyn nesaf yn swyddogol.

Daeth cannoedd o bobl i ymuno â gorymdaith Gorsedd y Beirdd, plant ysgol lleol ac arweinwyr cymunedau wrth iddi ymlwybro drwy ganol y dref.