Roedd darllen cerddi buddugol Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni “fel petai Dafydd ap Gwilym wedi atgyfodi,” yn ôl beirniaid y gystadleuaeth.

“Dyma’r bardd sicraf ei gyneddfau,” oedd sylwadau Emyr Lewis wrth draddodi’r feirniadaeth ar waith y bardd buddugol – sef Rhys Iorwerth, 28 oed, o Gaernarfon.

Roedd y gystadleuaeth eleni yn gofyn am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y testun ‘Clawdd Terfyn’ – ac mae’r dilyniant yn trafod stori gariad fodern dinesig, gwahanu dau, ac awgrym o ailgynnau’r fflam.

Dyma’r tro cyntaf i Rhys Iorwerth gystadlu ar y gadair, er ei fod sawl cadair a choron yn yr ysgol a’r Eisteddfod Ryng-golegol.

‘Brawdoliaeth’

Dywedodd y prifardd 28 oed ei fod yn lwcus iawn o gael criw o ffrindiau sy’n ymddiddori mewn barddoniaeth.

“Mae ’na lot ohonon ni tua’r un oed, a ma’ hynny’n helpu’r peth,” meddai Rhys Iorwerth, “mae e fel brawdoliaeth,” meddai.

“Mae ’na gystadleuaeth, ond ’da ni’n ffrindiau i gyd,” meddai, gan ychwanegu bod pawb wedi bod yn amau’i gilydd yn ystod yr wythnos ddiwetha’ ynglŷn â phwy fyddai’n mynd â hi.

“Ma’ lot o’n hoed ni yn gystadleuwyr peryg’ iawn.”

‘Cic yn din’

Dechreuodd gael gwersi cynganeddu yn yr ysgol uwchradd yn Ysgol Syr Huw Owen pan oedd yn iau, dan arweiniad y dirprwy brif athro Dafydd Fôn Williams, ond mae’n dweud iddo ollwng y grefft am flynyddoedd wedyn, cyn dechrau’n ôl yn ei drydedd flwyddyn yn y coleg.

Yng ngwersi Rhys Dafis, yng Ngwaelod y Garth, Caerdydd, y cafodd ail-afael ar gynganeddu – yr hyn mae’n ei alw’n “cic yn din” i ddechrau’n ôl arni o ddifrif.

Erbyn hyn, mae’r prifardd yn dweud ei bod hi’n “haws ’sgwennu ar gynghanedd na’r wers rydd.” Mae’n rhoi “sylfaen parod” i’r gwaith, meddai.

Y Cerddi

Mae’r cerddi buddugol yn ddilyniant, sy’n defnyddio “naratif stori garu” meddai Rhys Iorwerth, ond ei fod hefyd “yn ceisio dweud ychydig mwy na hynny hefyd.”

Un o’r isleisiau i’r cerddi, meddai, yw “natur dyn i oresgyn rhwystrau a symud ymlaen.”

Mae’n dweud bod y testun wedi ei sbarduno i ysgrifennu am ‘glawdd terfyn’ perthynas yn dod i ben, ond ei fod y gerddi hefyd yn cynnwys ‘clawdd terfyn’ ym mhob un yn unigol.

“Mae clawdd terfyn ar yr wyneb ym mhob cerdd,” meddai, “ond dwi’n trio dweud ychydig bach mwy na hynny hefyd.”