Rhodri Glyn Thomas
Er ei fod yn dadlau ers diddymu’r Cofnod dwyieithog fod angen gwyrdroi’r penderfyniad, gan alw ar y  Cynulliad i osod esiampl i weddill Cymru, mae Rhodri Glyn Thomas yn credu mai bach iawn oedd y defnydd o’r Cofnod pan oedd ar gael yn y Gymraeg.

“Dw i ddim yn ei ddefnyddio fo o gwbwl, ddim yn Gymraeg na Saesneg,” meddai’r dyn sy’n AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 1999.

“Alla i gyfrif ar un llaw sawl gwaith rydw i wedi’i ddefnyddio fo mewn deuddeng mlynedd.”

Ac mae’n chwilio am y ffordd rataf bosib o gyfieithu’r Cofnod i’r Gymraeg, meddai, er mwyn gallu gwario unrhyw arian sy’n cael ei arbed ar hyrwyddo’r iaith mewn ffyrdd eraill o fewn y Cynulliad.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn anelu at gyfieithu’r Cofnod yn llawn o fewn cyllideb o £100,000 – £150,000 yn llai na’r swm oedd yn cael ei wario ar gyflwyno Cofnod dwyieithog o fewn pum niwrnod gwaith, o dan yr hen drefn ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl.

Ac mae’r cyn-Weinidog Diwylliant yn wfftio’r rhai sy’n cwyno nad oes modd defnyddio cyfieithu peiriant i gyflymu’r broses, ac yn mynnu bod angen harnesu’r dechnoleg ddiweddara’ i wella safon cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg.

 “Mae yna bobol allan yna yn ennill bywoliaeth fel cyfieithwyr sy’n cyflwyno gwaith erchyll,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

Mwy am hyn yn y rhifyn cyfredol eisteddfodol estynedig o gylchgrawn Golwg.