Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ddamwain angheuol ar y B4520 rhwng Llanfair ym Muallt a Chapel Uchaf tua 7.30 neithiwr.

Fe fu farw dyn 49 oed o Gaerdydd ar ôl i’w feic modur fod mewn gwrthdrawiad â fan VW Caddy a oedd yn cael ei gyrru gan wraig o ardal Talgarth.

Fe aed â’r beiciwr modur i Ysbyty Treforys yn hofrennydd Heddlu Dyfed Powys, ond cyhoeddwyd ei fod yn farw yn fuan ar ôl cyrraedd. Chafodd gyrwraig y fan mo’i hanafu.

Roedd y ffordd, sy’n mynd dros fynydd Epynt o Lanfair ym Muallt i Aberhonddu, wedi cau tan 12.30am.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gadael neges i PC453 John yng ngorsaf heddlu Aberhonddu.