Mae llanc 18 oed wedi cael ei gyhuddo o dri lladrad arfog ac o fod ag arf tân yn ei feddiant mewn cysylltiad â thri digwyddiad mewn siopau yng Nghaerdydd y mis diwethaf.

 Fe fydd y llanc o Lanrhymni, Caerdydd, a gafodd ei arestio dydd Mawrth, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd heddiw.

 Mae dau lanc 18 oed arall, a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r lladradau, yn dal yn y ddalfa.

 Fe ddigwyddodd lladradau arfog yn Costcutter, Ffordd yr Eglwys Newydd, ddydd Iau, Gorffennaf 21, yn Spar, Allensbank Road, ddydd Iau, Gorffennaf 14 ac yn Spar, Clearwater Way, Lakeside, ddydd Mercher, Gorffennaf 6.

 Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth am ddyn sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n edrych fel rhywun cymysg ei hil, rhwng 18 a 22 oed, hyd at 6 throedfedd o daldra, gyda gwallt byr tywyll cyrliog a rhesi golau amlwg.

 Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â CID Caerdydd ar 02920 527 420 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.