Wylfa
Mae grŵp o ymgyrchwyr PAWB – Pobol yn erbyn Wylfa B – wedi bod yn protestio ar faes yr Eisteddfod heddiw yn erbyn codi’r orsaf niwclear newydd.

Roedd Sasha Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn, yn rhoi cyflwyniad ar y maes ac yn egluro mwy am fuddiannau’r cynllun i’r ardal leol.

Dywedodd y byddai cryn fuddsoddiad yn dod i’r ynys o ganlyniad i’r rhaglen Ynys Ynni, ac y byddai Wylfa B yn hwb economaidd i’r ynys.

Yn ôl Dylan Morgan o’r grŵp ymgyrchu “atebion cyffredinol a ffwrdd a hi” a gafwyd i’w cwestiynau ar ddiwedd y cyflwyniad heddiw.

“Mae defnydd crai ynni niwclear yn wenwynig yn ei hanfod. Mae beth ddylid ei wneud â gwastraff niwclear yn broblem gwbl sylfaenol,” meddai wrth Golwg360.

“Does yna’r un lle yn y byd y maen nhw’n gallu ei storio fe’n saff. Maen nhw’n son am drio ei gadw dan ddaear.

“Ond does yna ddim un storfa dan ddaearol unrhyw le yn y byd ar hyn o bryd sy’n barod i dderbyn gwastraff niwclear.

“Mae’n gwbl anghyfrifol fod y llywodraeth yn ceisio codi gorsafoedd niwclear newydd gan wybod fod beth i’w wneud â gwastraff y gorsafoedd presennol yn parhau yn broblem fawr.

“Be gawson ni ddim clywed yno heddiw oedd y byddai yn rhaid storio unrhyw wastraff o unrhyw orsaf niwclear newydd ar y safle am hyd at 160 o flynyddoedd.”

Dywedodd Sasha Davies wrth ymateb i’w gwestiwn mai’r “peth pwysig” i’w ystyried yw y byddai Wylfa B yn “creu gwaith da lleol i bobl leol a phobol ifanc yr ardal”.