Mae Heddlu Gwent wedi dweud fod cyrch arfog yn Sir Fynwy wedi dod i ben.

Roedd dyn 34 oed mewn tŷ wedi bygwth gwneud niwed i’w hun a swyddogion yr heddlu.

Cafodd y dyn ei arestio mewn tŷ yn Aunt Crescent yn ardal Bulwark Cas-gwent ar amheuaeth o ladrata a meddu ar ddryll.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod aelod o’r cyhoedd wedi eu galw nhw am 6.30am heddiw.

Roedd yr heddlu wedi rhoi “cynllun diogelwch” ar waith er mwyn sicrhau fod y cyhoedd yn saff, medden nhw.

“Roedd trafodwyr arbenigol mewn cysylltiad cyson â’r dyn,” meddai llefarydd.