Mae heddweision yn cymryd rhan mewn cyrch arfog o amgylch tŷ yn Sir Fynwy, meddai Heddlu Gwent.
Galwyd yr heddlu i adeilad yng Nghas-gwent y bore ma ar ôl adroddiadau fod dyn yn bygwth anafu ei hun.
Mae’r heddlu wedi cau ffordd yn Aust Crescent yn ardal Bulwark y dref.
Doedd yr heddlu ddim yn fodlon cadarnhau a oedd gan y dyn ddryll, ond yn dweud eu bod nhw’n credu ei fod ar ei ben ei hun yn y tŷ.
Mae adroddiadau fod yr heddlu wedi gofyn i bobol sy’n byw gerllaw i aros yn eu cartrefi.
Dywedodd llefarydd a ran Heddlu Gwent fod aelod o’r cyhoedd wedi eu galw am 6.30am bore ma.
“Mae ein swyddogion wedi eu harfogi er mwyn sicrhau eu bod nhw’n saff a bod y cyhoedd yn saff,” meddai llefarydd.