Mae cantores opera gafodd ei hurddo eleni wedi dweud wrth Golwg360 y dylai Gorsedd y Beirdd drefnu “gweithgareddau cymdeithasol” i annog pobol ifanc i ymuno.

Ar hyn o bryd does yna ddim byd i ddenu aelodau yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn, meddai Sara Lian.

Cafodd y gantores sy’n byw yn Llundain ei hurddo eleni ar ôl ennill Gwobr Goffa Osborne Roberts y llynedd.

Er iddi fwynhau cael ei hurddo ar y maes ddydd Llun, dywedodd y dylai’r aelodau wneud rhagor i gymysgu’n gymdeithasol.

“Mae eisiau gwneud rhywbeth i annog pobol ifanc i fod yn aelodau o’r Orsedd,”  meddai Sara Lian.

“Mi fyddai yn braf ei droi yn rhywbeth cymdeithasol – rhywbeth fydd yn denu pobol ifanc a’u cadw nhw yno.”

‘Gwahaniaeth oedran’

Dywedodd fod cael ei hurddo yn “fraint” ac yn brofiad “emosiynol” .

“Rydw i wedi edrych i fyny at yr orsedd er yn blentyn. Roedd hi’n braf iawn cael cyfarfod aelodau sydd wedi bod yno ers blynyddoedd,”  meddai.

“Ond yn y pen draw mae angen rhywbeth fydd yn fy nennu i nôl i gymryd rhan,” meddai.

“Mae yna wahaniaeth oedran anferth rhwng yr ifancaf a’r hynaf yn yr Orsedd. Ond ni’r bobol ifanc sy’n mynd i gadw’r peth i fynd am 50 mlynedd.”

“Er enghraifft, fe gefais i lythyr fod yr Orsedd yn trefnu taith i Bortmeirion,” meddai.

”Fyddwn i byth eisiau mynd i Bortmeirion. Beth am noson allan yng Nghaerdydd neu fynd i weld gig  – cyfle i gyfarfod ffrindiau  hen a newydd?

“Mae traddodiadau fel yr Orsedd sy’n ganolbwynt y steddfod angen denu pobol ifanc.”

Mae Sara Lian newydd orffen cyfnod gyda’r Glyndebourne Festival Opera ac yn mynd yn ôl i’r Academi Frenhinol yn Llundain ym mis Medi i ddechrau cwrs Opera fydd yn parhau am ddwy flynedd.