Mae gogledd ddwyrain Cymru yn perthyn i ogledd Lloegr cymaint ag y mae hi i Gymru, diolch i ddiffyg diddordeb Bae Caerdydd yn yr ardal.

Dyna farn Aled Roberts, un o Aelodau Cynulliad gogledd Cymru sy’n gadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod eleni.

Dywedodd fod Llywodraeth Bae Caerdydd wedi anghofio am y gogledd ddwyrain wrth gynllunio ar gyfer dyfodol Cymru.

Sgil effaith hynny yw bod y gogledd ddwyrain wedi parhau i glosio at ogledd orllewin Lloegr, meddai.

Fe fuodd Aled Roberts yn  cyflwyno araith am ‘Wleidyddiaeth y Gororau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru’ ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddoe.

Dywedodd cyn arweinydd Cyngor Wrecsam fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo cynllun adeiladu tai i gymudwyr yn y gogledd ddwyrain, “er mwyn diogelu llain las Swydd Gaer”, wedi dieithrio’r ardal ymhellach o’u llywodraeth y Bae.

“Mae’n syndod bod y Cynllun wedi ei gymeradwyo ar y pryd heb fawr o drafod ymysg cynghorwyr lleol nac ymhlith ein Haelodau o’r Cynulliad, heb sôn am ymysg bobl leol,” meddai.

Roedd “pobl y ffin yn sicr iawn o’u Cymreictod ond yn cydnabod hefyd eu dibyniaeth ar rhai o drefi mawr Gogledd Orllewin Lloegr, yn arbennig o ran ysbytai arbenigol ag ati,” meddai.

“Mae’n amser i’r rheini sydd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth yn yr ardal ystyried rôl yr ardal yn y Gymru newydd sydd ohoni. Ers 1997 bu’r  drafodaeth wleidyddol yn yr ardal yma yn eithaf diddim a difflach o ran ein cyfraniad o fewn y Gymru newydd.

“Ychydig iawn o arweiniad gwleidyddol a welwyd yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Yn rhy aml mae’r ardal wedi derbyn arweiniad ynglŷn â’i rôl o’r canol – o’r tu allan, efallai yn adlewyrchu’r ffaith taw’r Blaid Lafur a fu mewn grym yma am gymaint o flynyddoedd.

“Mae’n wir dweud bod nifer wedi eu synnu efo canlyniadau’r gogledd ddwyrain y refferendwm mis Mawrth dros bwerau ychwanegol. Prin bod y mwyafrif o newyddiadurwyr yng Nghaerdydd wedi disgwyl pleidlais o 64 y cant yn cefnogi’r syniad yn Wrecsam. Ond mae’n bwysig hefyd cofio bod pob un o siroedd yr ardal wedi bod o blaid y newid.”

Perygl

Dywedodd fod barn ar y cynllun i adeiladu tai i gymudwyr yn y gogledd ddwyrain yn amrywio o sir i sir.

Ychwanegodd fod “Sir Fflint yn ymddangos yn fodlon yn wleidyddol i gael ei hystyried yn rhan o isranbarth dinesig Lerpwl o ran cynllunio a datblygu economaidd, er ni fu i Sir Ddinbych gael ei gynnwys yn rhan o’r is-rhanbarth o’r dechrau, tra bod Wrecsam wedi gwrthod cael ei ystyried fel rhan o’r cynlluniau ers 2007.

“Nac anghofiwn mai dim ond 51 y cant o boblogaeth Sir Fflint erbyn hyn a anwyd yng Nghymru, tra bod dros 80 y cant o boblogaeth Wrecsam wedi eu geni yng Nghymru.

“Y peryg yw bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i wthio cynghorau i uno neu gyd-weithio yn mynd i olygu bydd ardaloedd unigol yn methu dilyn ei dyheadau arbennig eu hun.”

Doedd y Cynulliad heb sylweddoli i’r fath raddau yr oedd pobol yr ardal yn dibynnu ar wasanaethau dros y ffin, meddai.

“Mae 48 y cant o’n poblogaeth ni yn byw o fewn 25 milltir i’r ffin a 90 y cant o fewn 50 milltir,” meddai.

“Yn yr Alban dim ond tri y cant sydd yn byw o fewn 25 milltir a 21 y cant o fewn 50 milltir, felly mae’r dylanwad traws-ffiniol yn sicr mynd i fod yn gryfach yma.”