Philippa Evans
Mae teulu athrawes fu farw mewn gwrthdrawiad car wedi talu teyrnged iddi.

Fe fu farw Philippa Evans, 26, mewn gwrthdrawiad ar yr A465 ger Gurnos, Merthyr Tudful, brynhawn ddoe.

Wythnosau ynghynt roedd hi wedi dechrau ar swydd newydd yn dysgu yng nghanolbarth Lloegr ac roedd hi ar ei ffordd adref i ymweld â’i rhieni a’i brodyr.

“Roedd Philippa yn ferch ysbrydol, glyfar a llawn hwyl oedd yn gwneud y gorau o bob cyfle yr oedd hi wedi ei gael,” meddai’r teulu.

“Roedd hi’n cael pleser mawr wrth ddysgu pobol ifanc ac fe fydd ei theulu, yn ogystal â’i disgyblion a’i chyd-weithwyr yn Ysgol Uwchradd Arden, yn gweld ei heisiau hi.”

Galwyd yr heddlu, gwasanaeth tân a’r ambiwlans i le y digwyddodd y ddamwain tua 4.55pm ddoe.

Roedd Mitsubishi Colt arian Philippa Evans yn teithio i’r gorllewin ar hyd yr A465 tuag at Ferthyr pan wrthdarodd â Mercedes E220 du.

Roedd hwnnw#’n teithio i’r cyfeiriad arall ac yn cael ei yrru gan ddyn 53 oed. Aethpwyd ag ef a theithiwr benywaidd i’r ysbyty yn dioddef o fân anafiadau a sioc.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon a diffoddwyr tân methwyd ag achub Philippa Evans.

Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu sydd â gwybodaeth i ffonio 02920 633438.