Richard Wyn Jones
Mae arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru wedi dweud ei bod hi’n bryd cyflwyno system sy’n gorfodi San Steffan i gyfiawnhau pam na chaiff y Cynulliad ddeddfu.

Wrth siarad yn narlith flynyddol gyntaf y Coleg Cenedlaethol Cymraeg, dywedodd Dr Richard Wyn Jones bod angen i Gymru fabwysiadu system ddeddfu debyg i’r Alban.

Mae’r system bresennol yn rhoi’r baich ar Gymru i gyfiawnhau ei hawl i basio deddfau, meddai.

Yn ôl yr academydd, sy’n gyfarwyddwr ar Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r mater yn un hollbwysig i ddyfodol y Cynulliad gan ei fod yn ymwneud â “chydbwysedd grym”.

Mae system ddeddfu’r Alban yn “cryfhau safle’r ddeddfwrfa ddatganoledig,” tra bod system Cymru yn rhoi’r Cynulliad ar y droed ôl o hyd.

Ers deddf 1998 a sefydlodd Senedd yr Alban, mae’r wlad wedi mabwysiadu system ddeddfu neilltuedig – sy’n golygu mai cyfrifoldeb San Steffan yw’r materion sydd heb eu datganoli.

Mae Cymru’n ddibynnol ar system deddfu benodedig, sy’n golygu bod hawl gan Gymru ddeddfu ar faterion penodol sydd wedi eu trosglwyddo i rym y Cynulliad.

Petai Cymru yn mabwysiadu system neilltuedig “Llundain fyddai yn gorfod cyfiawnhau pam na chewch chi wneud rhywbeth,” meddai Richard Wyn Jones.

Cafodd y system sydd gan Gymru hefyd ei chynnig i’r Alban yn neddf 1978, meddai’r academydd, ond fe’i gwrthodwyd yn unfrydol gan bleidiau’r wlad.

‘Brawychus’

Dywedodd Richard Wyn Jones nad oedd y drafodaeth a gafwyd ar y mater cyn derbyn y system ‘benodedig’ yn Rhan 4, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 – wyth mlynedd wedi iddo gael ei wrthod gan yr Alban – wedi adlewyrchu pwysigrwydd y mater.

“Mae’n wirioneddol frawychus cyn lleied o drafodaeth a fu ar ei ffurf,” meddai.

Mae’n rhoi’r bai’n rhannol ar wleidyddiaeth fewnol y Blaid Lafur, oedd yn gorfod plesio aelodau meinciau ôl nad oedd eisiau rhoi grym deddfwriaethol cynradd yn nwylo Cymru.

Ond mae’n dweud fod y mater wedi disgyn drwy’r rhwyd oherwydd esgeulustod cyffredinol hefyd, llawn cymaint â bwriad y Blaid Lafur.

Methwyd a sylwi i ba raddau y byddai’r gwahaniaeth sylfaenol yn effeithio ar Gymru, meddai.

O’i herwydd, mae Whitehall a San Steffan yn meddwl bod refferendwm Mai 2011 yn ddim ond “estyniad bach” i bwerau Cymru, yn hytrach na “phennod newydd,” meddai.

‘Gobeithiol’

Wrth siarad â Golwg 360 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, dywedodd Richard Wyn Jones y gallai newid y system ddeddfu yng nghyfansoddiad Cymru fod yn bosib “o fewn pum mlynedd.”

“Mae’n mynd i ddigwydd,” meddai. “Mae llawer o’r rhwystrau bellach wedi diflannu… mae’n anodd meddwl pwy sydd ar ôl fyddai yn rhwystro’r newid.”