Rapsgaliwn a Mr Urdd
Mae Rapsgaliwn, seren gwasanaeth Cyw S4C a ‘rapiwr gorau’r byd’, yn rhyddhau ei lyfr cyntaf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae’r ‘Raplyfr’, O ble mae llaeth yn dod?, yn cael ei gyhoeddi’r wythnos hon gan wasg y Lolfa.

Yn ol y cyhoeddwyr mae’n  “llawn penillion i’w darllen a’u rapio’n uchel dros y lle”.

Yn ogystal â bod yn seren ar y teledu,ac awdur,  mae Rapsgaliwn hefyd wedi rhyddhau cryno-ddisg o ganeuon.

Rhyddhaodd fersiwn rap o gân Mr Urdd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe ym mis Mehefin.

“Rydym yn falch iawn fod enwogrwydd Rapsgaliwn yn dal i ledaenu a’i boblogrwydd yn mynd o nerth i nerth,” meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C.

“Bydd llyfr amdano fel un o arwyr mwyaf eiconig plant Cymru ac un o gymeriadau newydd gwasanaeth teledu arloesol S4C, Cyw yn sicr o fod yn llwyddiant ysgubol.”

Raaaplyfr!

Mae’r stori’n dilyn fformat y rhaglen deledu, a gynhyrchir gan gwmni Fflic, lle mae Rapsgaliwn, yn ei dracwisg sgleiniog aur, yn dod o hyd i atebion i gwestiynau pwysig bywyd gyda chymorth ei raplyfr.

Beca Evans, o gwmni Fflic, yw awdur y stori. Mae’n hanu o Gaerdydd ac wedi cynhyrchu a gweithio ar nifer o raglenni gan gynnwys Cariad@Iaith, Rapsgaliwn a Cwpwrdd Dillad.

Mae’r llyfr yn brosiect ar y cyd rhwng gwasg y Lolfa, cwmni teledu Fflic a chwmni Cube Interactive, cwmni o Gaerdydd sydd wedi creu’r lluniau ar gyfer gwefan Rapsgaliwn.

Appsgaliwn

Mae’r Lolfa a Cube yn cydweithio hefyd i gynhyrchu app Rapsgaliwn a fydd yn barod i’w lawrlwytho ym mis Awst.

Bydd Appsgaliwn yn cynnwys e-lyfr gyda’r lluniau wedi’u hanimeiddio, tudalennau i’w lliwio a phosau.

“Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Mae technoleg yn symud mor gyflym y dyddie hyn a phlant yn cael eu sbarduno fwyfwy gan sgrin fach y ffôn a’r iPod yn hytrach na sgrin fawr y teledu a’r cyfrifiadur,” meddai Meinir Wyn Edwards o wasg y Lolfa.

“Diddorol iawn fydd gweld sut fydd yr arbrawf yn gweithio. Os bydd Appsgaliwn yn llwyddiant, mae posibiliadau di-ben-draw i ehangu ymhellach.”

Bydd Rapsgaliwn ym mhabell y Lolfa ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam heddiw, am 3 o’r gloch.