Arwel Ellis Owen
Mae casgliad pwysig o raglenni a ffilmiau cynnar S4C yn mynd i gael eu cadw ar gyfer y dyfodol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Cyhoeddodd  S4C ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar Faes yr Eisteddfod heddiw eu bod wedi dod i drefniant ynglŷn â’r casgliad o ffilm ac elfennau cysylltiedig sy’n rhan o archif S4C yn ei phencadlys yng Nghaerdydd, gyda’r bwriad o sicrhau dyfodol hirdymor y casgliad.
Mae’r casgliad yn cwmpasu amrywiaeth o raglenni ac elfennau a phrintiau ffilm ac yn adlewyrchu cyfnod eang a genres amrywiol.

Maent yn cynnwys cyfres ddogfen dyddiau cynnar S4C Mwynhau’r Pethe, a ffilmiau nodedig fel Hedd Wyn a Solomon a Gaenor a chynyrchiadau animeiddio fel Gogs a Gŵr y Gwyrthiau.

“Mae arbenigaeth staff yr Archif wrth drin a thrafod ffilm yn hanfodol ac yn bwysig wrth geisio asesu a diogelu’r casgliad, tra bod lleoli’r casgliad yn Aberystwyth yn sicrhau fod yr Archif hefyd yn gallu cael mynediad i’r deunydd ar gyfer gweithgareddau ymchwil ac addysgiadol,” meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr dros dro S4C.

Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru eisoes yn gartref i gasgliadau mawr o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a’r Cymry.

“Mae’r Archif yn hynod o falch o allu cydweithredu gydag S4C yn y gwaith hwn fydd yn diogelu’r casgliadau i’r dyfodol, ac, yn y pen draw, yn caniatáu mynediad ehangach i’r cyhoedd,” meddai Dafydd Pritchard, Rheolwr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.