Roedd sawl ffynhonell posib i achosion o glefyd y llengfilwyr yng Nghymoedd y de yn 2010, yn ôl swyddogion iechyd cyhoeddus.

Fe fuodd dynes 49 oed a dyn 85 oed farw o ganlyniad i’r clefyd, ac roedd angen gofal mewn ysbyty ar 22 o bobol eraill.

Heddiw cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad 58 tudalen sy’n dweud nad ydyn nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i un ffynhonnell penodol i’r clefyd.

Roedd achosion ym Merthyr Tudful, Cwm Cynon a Cwm Rhymni.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw’n drwgdybio mai twr oeri ym Merthyr Tudful oedd heb ei gofrestru oedd yn gyfrifol am rai o’r achosion.

Roedd cysylltiad rhwng achosion eraill ag adeilad mân-werthu y tu allan i’r ardaloedd oedd wedi eu heffeithio.

Dywedodd Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd ar Reoli Clefydau Trosglwyddadwy ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod ymchwilio i’r achosion yn “gymhleth iawn”.

“Rydyn ni’n cydymdeimlo â’r rheini sydd wedi eu heffeithio gan beth ddigwyddodd.”

Roedd angen rhagor o gydweithio rhwng cyrff yn y dyfodol a canllawiau ar gymryd samplau, meddai’r adroddiad.