Bu’n rhaid achub merch o bwll mwdlyd ger y Bermo ddoe.

Llwyddodd gwylwyr y glannau i achub y ferch oedd wedi mynd yn gaeth at ei phengliniau mewn mwd ger y traeth.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod am ei helynt am 2.40pm brynhawn ddoe.

“Fe aeth y ferch yn gaeth mewn lle sy’n cael ei alw yn ‘Y Fynwent’ yn lleol,” meddai llefarydd.

“Galwyd ar wylwyr y glannau’r Bermo ac fe lwyddon nhw i’w thynnu o’r mwd. Aethpwyd a hi yn ôl i’r gwersyll lle’r oedd hi’n aros.”

Nid oedd y ferch wedi ei hanafu.