Yr Athro John Hughes
Mae Is-ganghellor Prifysgol Bangor wedi ei benodi i swyddi blaenllaw mewn addysg uwch.
Yr Athro John Hughes yw cadeirydd newydd Addysg Uwch Cymru.
Mae’n olynu’r Athro Noel Lloyd, cyn Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a ymddeolodd ar 31 Mehefin.
Bydd Dr Peter Noyes, is-ganghellor Prifysgol Casnewydd, yn is-gadeirydd.
Mae Addysg Uwch Cymru (AUC) yn cynrychioli buddiannau Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yng Nghymru
John Hughes
Cychwynnodd yr Athro John Hughes ar ei swydd yn Is-ganghellor Prifysgol Bangor ym mis Medi’r llynedd.
Cafodd ei eni ym Melfast ac mae yn fathemategydd a ffisegydd damcaniaethol. Mae wedi ymroi i siarad Cymraeg er cael ei benodi ac eisoes wedi siarad yr iaith yn gyhoeddus.
“Rydw i’n awyddus i barhau’r gwaith gwych y mae Addysg Uwch Cymru wedi ei wneud dros gyfnod arbennig o dymhestlog,” meddai.
“Mae’r sector addysg uwch yn wynebu heriau a chyfleoedd fel ei gilydd, a nod Addysg Uwch Cymru fydd sicrhau fod ein llais yn cael ei glywed.
“Mae pob un o’n prifysgolion yn ymroddedig i’r her o sicrhau twf economaidd yng Nghymru.”