Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Mae un o arweinwyr cefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam yn dweud y bydd y clwb yn eu dwylo yn gynnar yn y tymor newydd.

Gyda disgwyl i Brifysgol Glyndŵr brynu’r Cae Ras, mae Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn dweud eu bod nhwthau’n agos at brynu’r clwb ei hun.

Yn ôl Dirprwy Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, mae hynny’n cynnwys addewid gan y perchennog presennol, Geoff  Moss i dalu dyledion treth ac i drosglwyddo arian sydd eisoes wedi’i dderbyn am docynnau tymor eleni.

“Dw i’n credu y byddwn ni’n gweld diwedd ar yr wyth mlynedd o ddigalondid,” meddai Peter Jones. “Allwn ni fynd â’r clwb yma yn ei flaen yn glwb pêl-droed cymunedol go iawn.”

Yr amserlen

Dyma’r amserlen y mae’n ei disgwyl:

  • Y Brifysgol a Geoff Moss yn cytuno ar benawdau prynu’r Cae Ras cyn diwedd yr wythnos.
  • Yr Ymddiriedolaeth a Geoff Moss yn cytuno ar benawdau prynu’r clwb yn union wedyn.
  • Yr Ymddiriedolaeth yn galw cyfarfod arbennig o’i aelodau i derfynu’r pryniant o fewn pythefnos ar ôl hynny.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn credu y bydd yr arian y maen nhw wedi’i grynhoi, yr arian a ddaw gan Geoff Moss, rhagor o gefnogaeth gan y ffans  buddsoddi gan fusnesau lleol yn ddigon i gynnal y clwb.

Eisiau gwerthu

“Dw i’n credu bod Geoff Moss o ddifri eisiau gwerthu y tro yma,” meddai Peter Jones. “Dydyn ni ddim m gymryd clwb sy’n anobeithiol yn ariannol; mae hynny’n rhan o’r cytundeb.”

Roedd penaethiaid cynghrair y Blue Square, lle mae Wrecsam yn chwarae, yn gwybod yn llawn am y datblygiadau, meddai, ac roedd y rheolwr, Dean Saunders, a’i chwaraewyr hefyd yn barod i gydweithredu.

Roedd Ffederasiwn Cefnogwyr Wrecsam wedi talu cyflogau’r chwaraewyr am y mis, ar ôl iddyn nhw fynd ar streic ond maen nhw bellach yn ôl yn ymarfer.

“R’yn ni wedi cadw cysylltiad gyda Dean a’r chwaraewyr ar hyd yr amser,” meddai Peter Jones. “Nhw ydi ein harwyr ni.”