Mae Cadeirydd Sefydliad Brenhinol y Badau Achub wedi llusgo Land Rover 4×4 o’r môr ger arfordir Ynys Môn.

Dywedodd ei fod yn credu fod rhywun wedi dwyn y car fyddai yn costio tua £40,000 ar wedi ei yrru ar draws y traeth ac i mewn i’r môr.

Roedd Johnny Banks, 49, o Orllewin Sussex wedi clywed am y car wrth iddo ymweld â’i fam Shirley o Rosneigr, ac fe benderfynodd ei lusgo o’r dŵr fel nad oedd unrhyw gychod yn ei daro.

Gwelwyd y Land Rover Discovery oedd yn y dŵr ger traeth Cymyran dros fis yn ôl ond ni chafodd ei symud nes ddydd Sul.

“Rydyn ni’n credu fod rhywun wedi ei ddwyn o Fali ac wedi ei yrru dros y tywod ar y traeth ac i mewn i’r môr,” meddai Johnny Banks wrth bapur newydd y Daily Post.

“Fe fyddai cwch wedi gallu ei daro yn hawdd. Roedd gwylwyr y glannau a’r cyngor yn gwybod ei fod yno.

“Rydyn ni wrth ein boddau yn mynd allan ar y cwch felly fe benderfynon ni ei lusgo i’r lan.”

Dywedodd ei fod wedi deifio i lawr i ble’r oedd y car a chlymu rhaff gref ato, cyn clymu hwnnw at gar 4×4 arall oedd ar y traeth.

Gofynnodd am rodd ariannol gan y cyngor tuag at gangen leol Sefydliad Brenhinol y Badau Achub am ei fod wedi arbed arian iddyn nhw.