Castell Aberteifi
Mae’r castell lle y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf erioed wedi cael arian loteri er mwyn ei adfer.

Mae £35,000 wedi ei roi i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cadwgan er mwyn iddynt gael datblygu eu prosiect i adfer Castell Aberteifi.

Eisteddfod Aberteifi, a gynhaliwyd dros y Nadolig yn 1176 gan yr Arglwydd Rhys, yw’r eisteddfod gyntaf erioed y mae haneswyr yn gwybod amdani.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cadwgan yn 2001 er mwyn achub dau fwthyn gerllaw porth y castell. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwnnw penderfynodd yr ymddiriedolaeth wneud cais ar y cyd â’r perchnogion Cyngor Ceredigion am arian i adfer y castell ei hun.

Y nod yn y pen draw yw cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r castell o 3,000 i 30,000.

Maen nhw’n gobeithio y bydd modd denu rhagor o dwristiaid i’r ardal a hefyd cynnwys mwy o wybodaeth am y castell, gan gynnwys hanes yr Eisteddfod gyntaf.

Dywedodd Jann Tucker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cadwgan, ei fod yn “newyddion gwych i’r dref ac i’r prosiect o adfer y castell”.

“Fe fydd y nawdd o gymorth wrth drawsnewid ardal sydd dlawd yn gyrchfan twristiaid,” meddai.

“Y gobaith yw y bydd y prosiect yn hwb i’r dref er lles y gymuned ehangach.”

Prosiectau eraill

Mae wyth prosiect arall yng Nghymru wedi cael arian drwy Raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT).

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cyflwyno’r arian.

Yng Ngwynedd mae Cwmni Tabernacl (Bethesda) Cyf wedi cael £30,192 tuag at ddiwygio Neuadd Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda a chreu Canolfan Gelfyddydol yno.

Dywedodd Dyfrig Jones, Ysgrifennydd Cwmni Tabernacl Cyf, eu bod nhw’n “hapus iawn ein bod ni wedi derbyn y nawdd yma”.

“Mae Neuadd Ogwen yn galon i’r gymuned, ond rhaid gwneud llawer iawn o waith fel bod trigolion Dyffryn Ogwen yn gallu gwneud y defnydd gorau ohono,” meddai.