Adam Price
Mae adroddiad gynhyrchwyd gan ymchwilwyr o Harvard, gan gynnwys un o gyn-ASau Plaid Cymru, yn awgrymu y byddai’r wlad yn gyfoethocah pe bai’n annibynnol.

Mae’r adroddiad yn edrych ar beth fyddai hanes Cymru erbyn hyn, petai wedi datgan annibyniaeth yn 1990, tua adeg cwymp Mur Berlin.

Petai Cymru wedi gwneud hynny a perfformio fel cenhedloedd bychain eraill,  gallai pobl yng Nghymru heddiw ar gyfartaledd fod 39% yn gyfoethocach, medde nhw.

Yr ymchwilwyr o Harvard Adam Price a Ben Levinger yw awdurdon yr adroddiad a gomisiynwyd gan lywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE.

Mae’r adroddiad – ‘Effaith y Fflotila – Economïau bychain Ewrop trwy lygad y storm’ – yn edrych ar yr hyn y llwyddwyd i’w gyflawni gan genhedloedd bychain annibynnol yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Plaid Cymru mae’r adroddiad yn cyflwyno rhai “canfyddiadau allweddol” ar fanteision economaidd posibl bod yn genedl fechan annibynnol, gan gynnwys:

• Petai Cymru wedi dod yn genedl fechan annibynnol yn yr UE ym 1990, ac wedi perfformio fel cenhedloedd bychain eraill,  gallai pobl yng Nghymru heddiw ar gyfartaledd fod 39% yn gyfoethocach .

• Mae gwledydd bach yn gyfoethocach: nid yw bod yn fychan yn llesteirio ffyniant gwlad – mewn gwirionedd mae rhai o wledydd lleiaf Ewrop ymysg  gwledydd cyfoethocaf y cyfandir, yn ôl nifer o fesuriadau;

• Mae ‘bonws gwlad fach’ ymysg aelod-wladwriaethau’r UE, gyda gwledydd llai yn tyfu yn gynt;

• Yng Ngorllewin Ewrop, mae modd esbonio 50% o’r gwahaniaethau mewn twf rhwng y cenhedloedd dros y 30 mlynedd diwethaf gan wahaniaeth ym maint gwledydd;

• Mae gwledydd llai yn aml yn dod atynt eu hunain yn gynt wedi dirwasgiad;

• Mae pedwar ffactor allweddol yn gwneud cenhedloedd llai yn llwyddiannus yn economaidd – bod yn agored i fasnach, cydlyniant cymdeithasol, y gallu i addasu, ‘ macro-wleidyddiaeth micro-raddfa’ – llywodraeth fawr mewn gwlad fach.

‘Bonws gwlad fechan’

Dywedodd cyn-AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, sy’n gymrawd ymchwil yn y Center for International Development yn Harvard, fod canlyniadau’r adroddiad yn “bellgyrhaeddol”.

“Rydym wedi edrych yn fanwl ar yr hyn a wnaed gan genhedloedd bychain annibynnol yr UE, a’r hyn y gallai Cymru annibynnol wneud,” meddai.

“Gallai pobl yng Nghymru fod tua 39% yn gyfoethocach, a gallai economi Cymru fod wedi tyfu o 2.5% y flwyddyn petai Cymru wedi dod yn annibynnol o gwmpas yr adeg y cwympodd Mur Berlin ac wedi dilyn patrwm tebyg i genhedloedd bychain eraill. Ar y llaw arall, mae rhanbarthau neu wledydd a wrthododd annibyniaeth wedi perfformio’n wael.

“Dengys yr adroddiad yn glir nad yw maint yn rhwystr o gwbl i lwyddiant economaidd, ac mewn gwirionedd, gallai cenhedloedd bychain fel Cymru elwa yn fawr o annibyniaeth fel y gwnaeth llawer o genhedloedd eraill dros y degawdau a aeth heibio.

“Rydym wedi darganfod fod cryn ‘fonws gwlad fechan’ ymysg llawer o’r gwledydd a astudiwyd gennym a’u bod yn tyfu’n gynt ac yn gallu adfer yn gynt o ddirwasgiad.

“Mae gwrthwynebwyr annibyniaeth a mwy o ddatganoli yn aml wedi camddefnyddio’r problemau economaidd presennol i awgrymu y buasai gwledydd bychain yn ei chael yn anodd i oroesi mewn cyfnod economaidd caled. Mae llawer o gasgliadau’r adroddiad hwn yn chwalu’r rhagdybiaethau hyn yn yfflon.

“Ymhell o lesteirio ffyniant gwlad, gall bod yn fach arwain mewn gwirionedd at fwy o lwyddiant economaidd a mwy o ffyniant. Pan ddaw’n fater o siartio’r llwybr economaidd gorau, gwledydd bychain sydd fwyaf abl i ymaddasu ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn eu cyfoeth a’u lles. ”

‘Dim i’w ofni’

“Mae’r cynnydd tuag at annibyniaeth gan lawer cenedl fach yn yr Undeb Ewropeaidd, megis Catalunya, Fflandrys a’r Alban wedi rhoi’r mater yn bendant ar yr agenda wleidyddol,” meddai Jill Evans wrth lansio’r adroddiad.

“Mae i’r ddadl ar annibyniaeth i’r Alban yn benodol oblygiadau enfawr i Gymru. Felly mae’n hanfodol ein bod yn cael dadl wirioneddol am sut i adeiladu economi llwyddiannus a chynaliadwy. Comisiynais y gwaith hwn fel cyfraniad ffeithiol at y ddadl honno.

“Dengys yr adroddiad yn glir nad yw maint gwladwriaeth yn rhwystr o gwbl i lwyddiant economaidd ac mae’n datgan potensial Cymru annibynnol. Mae’n rhoi mwy o dystiolaeth nad oes gennym ddim i’w ofni o annibyniaeth. Yn hytrach na bod yn rhwystr i lwyddiant, gall annibyniaeth fod yn gatalydd iddo.”