Mae mwy na 400 o yrwyr ar draws Cymru wedi eu dal y tu ôl i’r olwyn dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau anghyfreithlon dros yr haf, datgelwyd heddiw.

Cymerodd pedwar heddlu’r wlad ran yn yr ymgyrch mis o hyd – gan gynnal mwy na 18,000 o brofion ar ymyl y ffordd.

Nod yr ymgyrch a gychwynnodd ym mis Mehefin oedd mynd i’r afael â phroblem gyrwyr oedd yn yfed gormod neu’n cymryd cyffuriau cyn gyrru.

Dywedodd yr heddlu fod y ffigyrau yn “arswydus” ac roedden nhw’n bwriadu atal a phrofi hyd yn oed yn rhagor o yrwyr yn y dyfodol.

Heddlu De Cymru oedd wedi dal y canran uchaf o bobol oedd dan ddylanwad diod neu gyffuriau. O’r 3,920 o bobol gafodd eu hatal roedd 192 (4.8%) yn torri’r gyfraith.

Arestiodd Heddlu Dyfed Powys 87 o’r 4,213 gafodd eu hatal (2.1%), ac arestiodd Heddlu Gogledd Cymru 96 o’r 5,715 (1.6%).

Dim ond 1.5%, sef 69 o’r 4,497, o’r rheini gafodd eu hatal gan Heddlu Gwent oedd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

“Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru wedi bod yn cynyddu’r pwysau’r haf yma er mwyn annog pobol i beidio gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau,” meddai Ian Shannon, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae’n frawychus fod 463 o bobol wedi eu harestio yn ystod yr ymgyrch yma.

“Yng Ngogledd Cymru cafodd gyrwyr eu harestio oedd wedi yfed cymaint o alcohol roedd ganddyn nhw 147 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl.

“O ystyried mai 35 microgram yw’r cyfyngiad mae’n anhygoel y byddai pobol yn parhau i yrru ar ôl yfed cymaint o alcohol.”

Dywedodd y Prif Archwilydd John Pavett o Heddlu Gwent fod yfed a gyrru yn chwarae rhan mewn canran uchel o wrthdrawiadau ffordd difrifol.

“Mae un person yn gyrru ar ôl yfed yn un person yn ormod,” meddai.