Fe fydd rhagor o waith yn cael ei gynnal ar un o dwneli Bryn-glas dros nos yn dilyn y tân yno’r wythnos diwethaf.

Fe aeth lori ar dân y twnnel ddydd Mawrth diwethaf gan achosi tagfeydd traffig anferth wrth i geir gael eu dargyfeirio ar hyd ffyrdd eraill.

Bu’n rhaid cadw hewl orllewinol yr M4 ar gau am ddyddiau wedyn wrth i’r gwasanaethau brys  glirio’r difrod a sicrhau nad oedd gwendid adeileddol yn y twnnel.

Heddiw dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y twnnel gorllewinol yn cael ei gau heno ma er mwyn trwsio goleuadau.

Bydd y twnnel ar gau am sawl noson wrth iddyn nhw gywiro’r difrod, meddai.

“Er mwyn lleihau’r effaith ar yrwyr fe fydd y gwaith ffordd yn cychwyn tua 8pm, yn dibynnu ar lefel y traffig,” meddai’r llefarydd.

“Y gobaith yw gorffen cyn 6am yfory. Bydd ceir sy’n teithio i gyfeiriad y twnnel gorllewinol yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A4042.

“Mae disgwyl y bydd y gwaith ffordd gyda’r nos yn parhau am hyd at wythnos.

“Rydyn ni’n galw ar yrwyr i gofio am y gwaith ffordd wrth gynllunio teithiau, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi eu hamynedd.”