Purfa Chevron (Colin Bell CCA 2.0)
Mae purfa olew Aberdaugleddau bellach yn eiddo i gwmni o’r Unol Daleithiau.

Cyhoeddwyd heddiw fod purfa Chevron wedi ei wertho i gwmni Valero Energy, o San Antonio, Texas.

“Cafodd y burfa ei phrynu am $730 miliwn (£448 miliwn), a talwyd ag arian oedd ar gael,” meddai’r cwmni.

Daw’r prynu wrth i ymchwiliad i ffrwydrad ar safle’r burfa olew yn Aberdaugleddau barhau.

Fe fu farw Andrew Jenkins, 33, Julie Schmitz, 54, Dennis Riley, 52, a Robert Broome, 48 yn y ffrwydrad ar 2 Mehefin.

Y burfa yw un o’r rhai mwya’ yng ngorllewin Ewrop ac mae tua 1,400 o weithwyr yno.