Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Mae Cyngor Wrecsam yn gobeithio y bydd dyfodol cae pêl-droed y Cae Ras yn cael ei setlo yr wythnos hon.

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, mae disgwyl y bydd Prifysgol Glyndŵr yn prynu’r stadiwm a chae ymarfer clwb pêl-droed Wrecsam gan sicrhau eu dyfodol.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Ron Davies wrth Golwg 360 ei fod hefyd yn deall y bydd y perchnogion presennol yn rhoi traean o’r arian gwerthu i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i gefnogi eu cais i brynu’r clwb pêl-droed.

‘Pwysig i Gymru’

“Mae’r Cae Ras yn bwysig, nid dim ond i Wrecsam ond i ogledd Cymru a Chymru gyfan,” meddai Ron Davies. “A dyw’r stadiwm ddim yn gyfan heb glwb pêl-droed ac, efallai, glwb rygbi’r gynghrair hefyd.”

Roedd yn gobeithio y byddai modd atgyfodi clwb y Croesgadwyr ar ôl i’r perchnogion eu dileu fis diwetha’.

Doedd hi ddim yn bosib i’r cyngor roi arian yn y clybiau, meddai, ond roedden nhw’n fodlon gwneud popeth o fewn eu gallu i’w cefnogi a chefnogi’r fargen i ddiogelu’r Cae Ras.

Cefndir y fargen

Y cytundeb tebygol yw fod Prifysgol Glyndŵr yn prynu’r ddau gae ac yn gwarantu eu defnydd ar gyfer y clwb pêl-droed a’r Cae Ras.

Gan fod y Cae Ras y drws nesa’ i gampws y Brifysgol, fe fydd hithau’n gallu datblygu rhan o dir i lacio’r pwysau am le.

Fe fyddai’r Brifysgol hefyd yn gallu defnyddio’r adnoddau ond, yn ôl Ron Davies, roedden nhw am warantu mai’r clybiau fyddai’n cael y cyfle cynta’.