Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews
Mae’n rhaid cadw’r consensws ynglŷn â’r Gymraeg, meddai’r Gweinidog Addysg ac Iaith Leighton Andrews mewn cyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ac fe gyhoeddodd ei fod yn gobeithio cyhoeddi strategaeth newydd i ddatblygu defnydd o’r iaith yn y gwanwyn.

Fe fyddai honno’n gosod cyfeiriad am y pum mlynedd nesa’, meddai, gan groesi i mewn i gyfnod Llywodraeth newydd.

‘Angen mwy na deddf’

Fe ddywedodd wrth Gymdeithas Cledwyn, sy’n hyrwyddo trafodaeth Gymraeg o fewn y Blaid Lafur, na fyddai’r mesur iaith newydd yn gallu gorfodi pobol i ddefnyddio’r iaith.

“Gall deddfwriaeth roi fframwaith i chi ond fydd hi ddim yn achub ac yn datblygu’r iaith,” meddai. “All deddfwriaeth ddim gorfodi mam i siarad Cymraeg gyda’i phlant ym Mrynaman – dim ond annog a meithrin y gellir ei wneud.”

Fe fyddai pwyslais y strategaeth, meddai, ar drosglwyddo’r iaith o fewn teuluoedd, ar wneud i ddefnyddwyr yr iaith deimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny ac ar wneud i gyrff cymunedol deimlo’n hyderus eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg.

Sut mae cau’r bwlch?

Ar ôl y cyfarfod, fe ddywedodd wrth Golwg 360 ei fod wedi gofyn i grŵp ymgynghori beth sy’n gweithio orau a beth fyddai’r defnydd gorau o unrhyw fuddsoddiad.

“Y cwestiwn mawr i ni yw, os ydyn ni’n colli 3,000 o siaradwyr pob blwyddyn, sut allwn ni gau’r bwlch.”

Fe fydd Comisiynydd Iaith yn cael ei benodi yn y flwyddyn newydd wrth i Fwrdd yr Iaith ddod i ben ac fe addawodd y byddai llawer o swyddogion y Bwrdd yn cael eu symud i mewn i fod yn rhan o’r Llywodraeth erbyn mis Ebrill nesa’.

Dim addewid ariannol i’r Eisteddfod

Yn ddiweddarach, fe wrthododd Leighton Andrews roi addewid o ragor o arian i’r Eisteddfod ond fe bwysleisiodd ei fod yn gobeithio parhau i weithio gyda’r ŵyl.

Fe fyddai’r Eisteddfod fel pob corff arall yn gorfod cyflwyno’i dadleuon a dangos beth yr oedd yn ei gyflawni.

“Beth sy’n bwysig i fi,” meddai, “yw canlyniadau nid rhestr o ddigwyddiadau.”