April McMahon
Mae Is-Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth, yr Athro McMahon, yn dechrau ar ei swydd newydd heddiw.

Mae April McMahon yn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth o Brifysgol Caeredin lle’r oedd yn Is-Brifathro Polisi Cynllunio, Adnoddau ac Ymchwil.

Pan gyhoeddwyd ei phenodiad mynegodd Bwrdd yr Iaith ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol eu siom nad oedd siaradwr Cymraeg wedi ei benodi.

Ond mae’r Brifysgol wedi agwrymu y bydd April McMahon – sydd eisoes yn siarad Sgoteg, Ffrangeg ac Almaeneg – yn dysgu Cymraeg yn y dyfodol agos.

Cafodd ei phenodi ym Mis Ionawr eleni a dywedodd y Brifysgol ei bod hi “eisoes wedi ymroi” i ddysgu’r iaith.

Bydd yn gyfnod newydd i Brifysgol Aberywtyth, wrth i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru dderbyn eu cais i godi £9,000 ar fyfyrwyr o fis Medi 2012 ymlaen.

‘Adeg heriol’

Dywedodd April McMahon ei fod yn “adeg heriol i Addysg Uwch. Ar lawer agwedd, mae’r llyfr rheolau yn cael ei ailwampio’n llwyr, ond mae rhai egwyddorion pwysig sy’n aros yn ddigyfnewid”.

“Dyma’r blaenoriaethau a fydd yn aros yn y Brifysgol hon: cyfleoedd dysgu ardderchog; cymorth i fyfyrwyr sy’n arwain y byd; ymchwil sydd ar flaen y maes mewn ystod eang o ddisgyblaethau academaidd – a hyn oll mewn amgylchedd sydd heb ei ail.”

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth, fod “prifysgolion yn wynebu cyfnod o newid digyffelyb”.

“Rwy’n arbennig o falch fod  Aberystwyth wedi llwyddo i ddenu arweinydd newydd o safon yr Athro McMahon. Edrychaf ymlaen yn fawr i weithio gyda hi er mwyn cyflymu datblygiad y Brifysgol fel sefydliad a dywysir gan ymchwil, sy’n gystadleuol ar lwyfan byd-eang, ac sydd hefyd yn cyflawni ei hymrwymiadau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.”

Cefndir

Enillodd April McMahon radd MA ym maes Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ac yna Doethuriaeth ym maes Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin.

Bu’n dysgu yn yr Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt am 12 mlynedd, lle’r oedd hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg Selwyn, a bu’n Athro Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sheffield o 2000 tan 2004.

Yn 2005 aeth yr Athro McMahon yn ei hôl i Brifysgol Caeredin ar ôl ei phenodi yn Athro Forbes Iaith Saesneg ac yn bennaeth ar yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg. Yn dilyn hyn cafodd ei phenodi’n Bennaeth Coleg y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol cyn dechrau ar ei swydd bresennol yn Is-Brifathro ym mis Medi 2009.

Y mae hi’n awdur ac yn gydawdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Lexical Phonology and the History of English (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), Change, Chance, and Optimality (Gwasg Prifysgol Rhydychen), Understanding Language Change (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), An Introduction to English Phonology (Gwasg Prifysgol Caeredin) a hi yw cyd-olygydd y cyfnodolyn English Language and Linguistics a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt. Y mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin ac o’r Academi Brydeinig.