Chwed Evans (Llun PA)
Mae pêl-droediwr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, wedi ei gyhuddo o dreisio, cyhoeddodd ei gyfreithwyr.

Cafodd y chwaraewr 22 oed ei arestio yn Rhyl ddiwedd mis Mai am y drosedd honedig ac mae bellach wedi ei gyhuddo gan Heddlu Gogledd Cymru.

Mae Ched Evans, sydd â 13 cap dros Gymru, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Prestatyn yr wythnos nesaf.

Mae’n gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn, meddai ei gyfreithwyr.

Mewn datganiad ar wefan Sheffield United, dywedodd ei gyfreithwyr eu bod nhw’n “cadarnhau fod Ched Evans wedi ei gyhuddo gan Heddlu Gogledd Cymru o dreisio”.

“Mae Ched wedi penderfynu gwneud y wybodaeth yma yn hysbys o’i wirfodd er mwyn cyfleu ei fraw a’i siom ei fod wedi ei gyhuddo o’r drosedd, yn enwedig o ystyried y dystiolaeth sydd wedi arwain at y cyhuddiad,” medden nhw.

“Hoffai Ched ei wneud yn glir ei fod yn gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn yn chwyrn ac fe fydd yn brwydro i glirio ei enw.

“Yn anffodus ni fydd yn gallu rhoi unrhyw sylw pellach ar y dystiolaeth sy’n sail i’r cyhuddiad, ond mae’n hyderus y bydd yn cael ei rhyddfarnu a’i gyfiawnhau o flaen llys.

“Ni fydd unrhyw sylw pellach wrth i’r broses gyfreithiol fynd rhagddo.”

Dau ddyn

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd Ched Evans a dyn arall yn ymddangos o flaen y llys ar 8 Awst.

“Mae dyn 22 oed o Crewe a dyn 22 oed o Rhyl wedi eu cyhuddo o dreisio,” medden nhw.

“Cafodd y ddau eu harestio ar 31 Mai ar amheuaeth o dreisio a’u cyhuddo ar 26 Gorffennaf.

“Bydd y ddau yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Prestatyn ar 8 Awst.”

Dywedodd Sheffield United nad oedden nhw’n bwriadu cynnig sylw ar y mater.