Cnapyn o lo
 
Testun rhifyn diweddaraf GLO, cylchgrawn hanes gwerin Big Pit, yw’r diwydiant glo yng ngogledd Cymru, a bydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.

Mae staff Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru wedi bod yn gweithio â chymunedau yng ngogledd Cymru i adrodd hanes y cymunedau glo y rhanbarth. Canlyniad y gwaith ymchwil yw rhifyn diweddaraf GLO: Y Gogledd-ddwyrain, Y Maes Glo Angof? Bydd yn cael ei lansio’n ffurfiol gan Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar stondin Amgueddfa Cymru ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher, Awst 3.

Dywedodd Ceri Thompson, Curadur Glo Amgueddfa Cymru: “Mae gweithio gyda chymunedau gogledd Cymru wedi bod yn brofiad gwerth chweil.

“Mae gennym wybodaeth helaeth am ddiwydiant glofaol de Cymru yma yn Big Pit, ond roedd y pellter yn broblem wrth weithio â chymunedau gogledd Cymru. Drwy gydweithio ag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru a grwpiau cymunedol eraill, fe lwyddon ni i baratoi casgliad o straeon diddorol, oedd weithiau’n drasig, o faes glo gogledd Cymru.

“Mae ein dyled yn fawr i bawb a gyfrannodd neu a gynorthwyodd i’n hymchwil ar gyfer y cylchgrawn.”

Keith ‘Tattoo’ yn cofio

“Roedd y diwydiant glo yn yr ardal yn cael ei weld ers blynyddoedd fel rhywbeth i’w anghofio, doedd dim llawer o ddiddordeb mewn diwydiant oedd wedi siapio nifer o gymunedau gogledd Cymru,” meddai Keith ‘Tattoo’ Evans, sy’n ymddangos yn y rhifyn diweddara’ o GLO.

“Fodd bynnag, ymddengys bod diddordeb yn hanes ac etifeddiaeth y diwydiant glo wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf.

“Fe weithiais i yn y diwydiant am sawl blwyddyn, mewn nifer o byllau yn yr ardal, ac rwy’n falch iawn bod Big Pit wedi cyhoeddi fy stori i yn y cylchgrawn hwn.

“Rydw i a chyn-löwr arall yn ymweld ag ysgolion i siarad â’r plant am ein hamser yn y pyllau, a bydd GLO yn gymorth mawr i ni gan ei fod yn cynnwys hanesion fydd yn debyg iawn i brofiadau perthnasau’r plant.”

Caiff GLO ei gynhyrchu’n flynyddol a’i ddosbarthu’n rhad ac am ddim. Gellir ei lawrlwytho hefyd o wefan Amgueddfa Cymru yn:  www.amgueddfacymru.ac.uk/rhagor/glo.