Y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards - ysgogwr Academi newydd ym Mhrifysgol Abertawe
 
Yn dilyn ei lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd yng Nglyn Ebwy, bydd Academi Hywel Teifi ­– pwerdy Prifysgol Abertawe ar gyfer addysgu ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg – yn cynnal ei Gemau Iaith Cymraeg rhyngweithiol cyntaf.

Bydd lansiad y gemau hyn – un ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a’r llall ar gyfer rhai sy’n dysgu Cymraeg yn gyfle i Eisteddfodwyr brofi ei sgiliau iaith Cymraeg yn erbyn Glew y Ddraig, mewn cystadleuaeth agored.

Mae Academi Hywel Teifi hefyd wedi noddi’r ail Ddarlith Goffa Hywel Teifi Edwards flynyddol, a fydd yn cael ei chynnal yn y Babell Lên, ar ddydd Iau, Awst 4.

Caiff y ddarlith, sy’n dathlu cyfraniad unigryw y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i’r Brifysgol ac i Gymru, ei thraddodi gan yr Athro M Wynn Thomas, a’i theitl fydd ‘Colli Hywel Teifi: Ymadawiad Arthur?’ a bydd ‘Ymadawiad Arthur’ gan T Gwynn Jones, un o gerddi Eisteddfod enwocaf yr 20fed ganrif, yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer myfyrdodau ar ddatblygiad Cymru ddwyieithog, aml-ddiwylliannol.  

Sefydliad newydd arall

Bydd Sefydliad Ymchwil Hywel Dda, sefydliad newydd Ysgol y Gyfraith, yn lansio ei wefan newydd heddiw, ar ôl trafodaeth ar ddyfodol y System Gyfreithiol Gymreig, dan arweiniad cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Gwynedd Parry.

A bydd Dr Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru, yn trafod rôl Cymru yng nghyd-destun Dileu Caethwasiaeth, ddydd Gwener, Awst 5, wrth iddo ddatgelu’r cysylltiadau rhwng Wrecsam a ffigwr o bwys ym Mudiad y Diddymwyr, Frederick Douglass.