Fe fydd app eisteddfodol sydd wedi e ei greu’n arbennig ar gyfer defnyddwyr yr iPhone ar gael yn rhad ac am ddim i bobl ei lawr lwytho eleni.

Dywedodd Ambrose Choy o Lanberis, un o grewyr yr iSteddfod, fod y rhaglen wedi’i “ddiweddaru a’i ail ddylunio” ar gyfer yr ŵyl eleni.

Cafodd ei greu yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Glyn Ebwy’r llynedd ac roedd dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho bryd hynny.

“Mae mwy o wybodaeth arno am yr eisteddfod, map o’r maes, a rhestr o ddigwyddiadau o’r maes, Maes B , C a’r gigs i gyd,” meddai Ambrose Choy.

“Yn ogystal â hynny mae rhestr A-Z o’r holl stondinau ar y maes – dros 200 i gyd.

“Mae pobl fel Eglwysi Cymru a S4C wedi cymryd hysbysebion – a bydd gwybodaeth amdanyn nhw ar gael ar y rhaglen yn ogystal â llawer o gyrff eraill,” meddai.

‘Gwasanaeth i Gymru’

Dyw Ambrose Choy a’i bartner busnes Edryd Sharp heb wneud “unrhyw elw o’r fenter bron a bod” meddai.

“Rydan ni’n ei wneud o am ddim a dweud y gwir ac mae arian o’r eisteddfod wedi helpu. Roedd cymaint wedi lawrlwytho’r rhaglen y llynedd ac wedi ei hoffi,” meddai.

Dywedodd fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi arian tuag at y rhaglen, sy’n golygu y bydd pobol yn gallu ei lawr lwytho am ddim eleni.

Roedd yn costio  £1.19c i’w lawr lwytho llynedd.

“Rydyn ni wedi treulio cymaint o amser arno ac yn teimlo ei fod yn wasanaeth i bobol Cymru,” meddai Ambrose Choy.