Aberdaugleddau
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth Asiantaeth yr Amgylchedd i beidio â rhoi caniatâd i orsaf bŵer newydd am y tro.

Mewn llythyr at gyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru mae’r llywodraeth wedi dweud wrthyn nhw i beidio â rhoi sêl bendith i orsaf bŵer £1 biliwn RWE npower.

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru eisoes wedi datgan eu “pryder difrifol” ynglŷn â’r cynllun. Ond fe awgrymodd Asiantaeth yr Amgylchedd ym mis Mehefin eu bod nhw’n bwriadu cymeradwyo’r cynllun.

Mae’r llywodraeth wedi dweud fod angen cwblhau ymchwiliad i effaith yr orsaf bŵer yn Sir Benfro ar yr amgylchedd lleol cyn rhoi caniatâd iddo.

Bydd yr orsaf bŵer sy’n defnyddio’r nwy hylifol naturiol sy’n cyrraedd harbwr Aberdaugleddau yn gwasgaru gwres i mewn i’r dŵr oddi ar yr arfordir.

Yn y llythyr at Asiantaeth yr Amgylchedd mae’r Llywodraeth yn dweud fod “dyllau yn y dadansoddiad a’r rhesymeg” yn eu hadroddiad am effaith amgylcheddol yr orsaf bŵer.

Dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru eu bod nhw’n croesawu’r penderfyniad, ond ei fod yn bryd i’r Gweinidog Amgylcheddol alw’r prosiect i mewn.

Ychwanegodd Gordon James, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, na ddylen nhw “wastraffu’r egni yma ac ni ddylen ni fod yn gwneud niwed i fywyd gwyllt heb fod angen”.

“Mae gan Lywodraeth Cymru bryderon difrifol am effaith yr orsaf bŵer ar un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Ewrop,” meddai Laura Gyte, cyfreithiwr Cyfeillion y Ddaear.

“Rhaid i’r Gweinidog Amgylcheddol alw’r penderfyniad i mewn er mwyn diogelu’r arfordir.”