Meic Stevens
Mae angen cynnal trafodaeth genedlaethol ar ddyfodol y sîn roc Gymraeg ar S4C.

Dyna farn y canwr Meic Stevens, sy’n dweud nad oes unrhyw gymhelliant i artistiaid roc a pop heddiw.

“Mae’r byd roc Cymraeg ar ei bengliniau,” meddai. “Dydyn nhw ddim yn talu’r artistiaid ddigon i’w helpu nhw. Does dim cymhelliant i sgrifennu stwff gwreiddiol oherwydd sefyllfa’r royalties gyda’r BBC.

“Dyw hi ddim gwerth gwneud recordiau Cymraeg, achos does dim byd yn dod yn ôl. Rhaid talu artistiaid er mwyn iddyn nhw gael byw. Mae pawb arall yn cael eu talu.”

Mae am weld trafodaeth rhwng “pobol o S4C, o’r BBC, o PRS, a fi falle, Bryn Fôn falle, cwpwl o bobol o’r byd roc Cymraeg… a’i gael mas yn yr awyr agored a dod i ryw fath o drefn, i roi ryw obaith i’r artistiaid i wneud y stwff yma.”

Dyw’r cyfryngau Cymraeg ddim yn rhoi digon o gefnogaeth ariannol i artistiaid cyfoes, yn ei farn e.

“Mae drama ac opera ac ati yn cael ei hybu gan Gyngor y Celfyddydau a hyn a’r llall, ond does neb yn hybu cerddoriaeth fodern. Mae’n marw ar ei draed ar hyn o bryd.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 28 Gorffennaf