Mae cynghorydd o Gymru wedi ymuno â phlaid newydd asgell-dde eithafol gyda’r bwriad o sefydlu cangen ohono yn ne Cymru.

Roedd y Cynghorydd Kevin Edwards o Landybie yn arfer cynrychioli’r BNP cyn troi cefn ar y blaid ym mis Chwefror eleni.

Mae Britain First y ‘grŵp ymgyrchu’ asgell-dde sydd wedi ei sefydlu er mwyn brwydro o blaid sawl pwnc amrywiol gan gynnwys y gosb eithaf, ac yn erbyn costau petrol uwch a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Edwards y bydd “cyfarfod yng Nghymru yn cael ei drefnu yn fuan iawn”.

“Rydw i wrth fy modd yn cael ymuno â Britain First ac yn hapus i ddatgan fy mod i bellach yn gynghorydd sy’n cynrychioli Britain First,” meddai.

“Rydw i’n siŵr y bydd nifer fawr yn ymuno cyn bo hir. Mae dyfodol Britain First yn mynd i fod yn un diddorol ac fe fydd y sefydliad yn ein hofni ni yn y dyfodol agos.”