Peiriant greanu ffordd
Mae Cyngor Gwynedd a Cheredigion wedi cadarnhau eu bod nhw’n paratoi ar gyfer gaeaf caled arall eleni ar ôl tywydd eithafol y llynedd.

Ar ôl tri gaeaf caled yn olynol maen nhw wedi gwneud ceisiadau i gynyddu faint o raean y maen nhw’n gallu ei storio ar gyfer y gaeaf.

“Mae’r Cyngor wedi sicrhau bod ein storfeydd graean yn llawn ac rydym wedi cynyddu ein capasiti storio gyda safle newydd ym Mlaenau Ffestiniog sydd yn dal 4500 tunnell ychwanegol o raean,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

Fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion wrth Golwg360 eu bod nhw hefyd wedi cael caniatâd i godi storfa graean arall ond na fydd yn barod eleni.

“Rydyn ni wedi cael caniatâd i godi ysgubor newydd ym Mhenrhos a fydd yn medru dal 6,750 tunnell o raean, a bydd hwnnw’n barod erbyn 2012,” meddai’r cyngor.

“Gyda hynny bydd yr awdurdod yn medru dal 10,125 tunnell o raean o dan do, sy’n fwy na’r hyn a bennir yng nghanllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.”

Wrth raeanu’r ffyrdd eleni maen nhw’n bwriadu rhoi blaenoriaeth i “brif ffyrdd, ac yna ffyrdd sy’n arwain at fannau diwydiannol allweddol, ysbytai, gorsafoedd tân, gorsafoedd ambiwlans a gorsafoedd heddlu, a prif drywyddau bysus”.

Fe fyddwn nhw hefyd yn blaenoriaethu ffyrdd sy’n bwysig o ran pobl yn mynd i’w gwaith, gorsafoedd trenau a bysus, ffyrdd sy’n mynd at ganolfannau siopa, ffyrdd sy’n mynd at bentrefi, cymunedau, ysgolion a ffermydd, ac yn olaf, a ffyrdd mewn ardaloedd preswyl.

‘Defnyddio’r holl adnoddau’

“Mewn sefyllfaoedd fel hyn bydd Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael,” meddai’r llefarydd cyn dweud mai “nod y Cyngor yw darparu gwasanaeth dros y gaeaf a fydd yn rhoi rhwydd hynt i gerbydau fynd yn ddiogel ar y rhannau pwysicaf o’r rhwydwaith briffyrdd, neu’r ffyrdd strategol.

“Wrth wneud hynny, gwneir ymdrech hefyd i gwtogi ar yr oedi a’r damweiniau sy’n digwydd oherwydd y tywydd gwael. Pan fo’r graeanu ymlaen llaw yn effeithiol a phan fo’r adnoddau ar gael, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r prif ardaloedd siopa, ac yna’r rhannau prysur o drefi’r sir, gan gynnwys troedffyrdd sy’n mynd at lefydd diwydiannol allweddol, ysbytai, prif drywyddau bysus trefol, ysgolion a llefydd sy’n cael trafferthion yn aml, megis rhiwiau serth.”