Lowri Morgan
Mae Canolfan Ddringo newydd wedi’i hagor yn swyddogol yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog.

Agorwyd y ganolfan, a fydd yn creu tair swydd newydd, gan yr athletwraig Lowri Morgan ac Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion.

Mae’r ganolfan ddringo wedi ei lleoli yn yr Hen Sgubor, lle bu ceffylau yn cael eu cadw am dros 40 mlynedd.

Adeiladwyd y ganolfan gyda chymorth grant gwerth £84,657 gan Gronfa Twf Mentrau Cymdeithasol Ceredigion.

Mae’n gynnwys cwrs rhaffau uchel, wal ddringo dan do a gofod i gynnal gemau a sialensiau tîm.

Dywedodd Lowri Morgan, seren Ras yn Erbyn Amser S4C, bod yr Urdd wedi bod yn ganolog i’w magwraeth ac wedi agor ei llygaid  i gyfleoedd newydd.

Fe fu’n aros yn Llangrannog yn blentyn a dywedodd fod y gwersyll wedi rhoi blas iddi ar weithgareddau nad oedd hi wedi cael cyfle i roi tro arnynt o’r blaen.

Fe fydd y Ganolfan ar agor i’ r cyhoedd, a gobaith yr Urdd yw y bydd yn cael ei defnyddio yn gyson a rheolaidd gan y gymuned leol.