Ysbyty Glan Clwyd
O 1 Awst 2011, bydd perthnasau a chyfeillion yn gallu anfon negeseuon drwy e-bost at gleifion ym mhob un o brif ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cyhoeddwyd heddiw.

Mae’r gwasanaeth eisoes wedi bod ar gael yn Ysbyty Gwynedd ers cryn amser, ond bydd yn cael ei ymestyn i gynnwys Ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam o 1 Awst.

Mae’n bosibl cael mynediad at y gwasanaeth drwy gyswllt ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle mae gofyn  i’r sawl sy’n anfon neges  gwblhau ffurflen.

Yna, mae’r e-bost yn cael ei anfon i flwch e-bost pwrpasol, ei argraffu a’i roi mewn amlen dan sêl, a bydd un o wirfoddolwyr y Bwrdd Iechyd yn mynd ag ef i’r claf cyn gynted â phosibl.

“Bydd y gwasanaeth hwn yn ddefnyddiol iawn i berthnasau a chyfeillion sydd dramor neu’n byw’n bell i ffwrdd o’r ysbyty, ond am i’w hanwyliad wybod eu bod yn meddwl amdanynt,” meddai Heather Piggot, Cyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyol.

“Gobeithio bydd y blaengaredd hwn yn cyfrannu at les cleifion yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty”.