Llyn Efyrnwy
Mae’r cwmni dŵr sy’n berchen ar Lyn Efyrnwy wedi cyhoeddi’r cynnig y maen nhw yn ei gefnogi i brynu talp eang o’r ystâd ym Mhowys.

Mae Severn Trent Water wedi dweud eu bod yn ffafrio cynnig ar y cyd rhwng United Utilities ac RSPB Cymru i brynu tir amaethyddol yr ystâd. Maen nhw’n  addo dod a datblygiad i’r ardal a gofalu am yr amgylchedd.

Dywedodd Severn Trent eu bod yn ffafrio cynnig gan FIM Sustainable Timber & Energy LP i brynu coetiroedd yr ystâd.

Ond mae rhai trigolion lleol yn amau a fydd rhoi peth o’r ystâd yn nwylo cwmni dŵr arall yn ysgogi’r buddsoddiad sydd ei angen yn yr ardal.

Mae cynnig arall am les 125 mlynedd yr ystâd, sy’n costio £11 miliwn, wedi dod oddi wrth y gŵr busnes o’r Bala, Rhys Jones.

Roedd prif weithredwr Celtic Property Development yn dweud y byddai prynu’r ystâd yn fuddsoddiad at y dyfodol.

United Utilities

Mae United Utilities yn darparu gwasanaethau dŵr a gwastraff dŵr i bron i saith miliwn o bobol yng ngogledd orllewin Lloegr, gan gyflenwi dros dair miliwn o gartrefi a dros 400,000 o adeiladau busnes.

Yn ôl United Utilities, fe fydd arbenigedd a phrofiad y cwmni o fantais yn Llyn Efyrnwy, ac maen nhw’n dweud y byddan nhw’n ymgynghori’n agos â chymunedau lleol a grwpiau â diddordeb arbennig os yw eu cais yn llwyddiannus.

Mae RSPB Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn gobeithio cael y cyfle i gydweithio â’r gymuned leol os yw’r cais yn cael ei dderbyn, a pharhau â’r cysylltiad hir sydd ganddyn nhw â Llyn Fyrnwy.

‘Denu buddsoddiad yn flaenoriaeth’

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ddoe er mwyn trafod y mater, a dywedodd llawer o bobol leol mai denu buddsoddiad newydd er mwyn creu a chadw swyddi yn lleol oedd eu blaenoriaeth nhw.

Roedd oddeutu 100 o bobol yn y cyfarfod yn y ganolfan gymunedol yn Abertridwr neithiwr – yr wythfed i gael ei gynnal o fewn blwyddyn  er mwyn trafod gwerthiant yr ystâd.

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, sy’n gadeirydd ar bwyllgor amgylcheddol y Cynulliad, wedi galw am ymchwiliad i werthiant yr ystâd, gan ddweud bod “diddordeb sylweddol gan y cyhoedd” yn nyfodol Llyn Fyrnwy.

Y safle 23,000 erw, ger pentref Llanwddyn yn Sir Feirionydd, fydd y gwerthiant mwyaf o’i fath yng Nghymru a Lloegr ers degawdau.

Mae’r ystâd, sydd â les 125-mlynedd, yn cynnwys ardal o gadwraeth a chadwraeth natur, ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a sawl fferm.